Rhif y ddeiseb:P-06-1395

 

Teitl y ddeiseb: Atal datblygiad newydd sylweddol ar SoDdGA Gwastadeddau Gwent

 

Geiriad y ddeiseb: Mae Gwastadeddau Gwent yn dirwedd hynafol sy’n gyfoethog o ran diwylliant ac sy’n bwysig ar gyfer bioamrywiaeth, hamdden, lliniaru effeithiau llifogydd, storio carbon a chynhyrchu bwyd.  Mae bellach yn wynebu cynigion i ddatblygu sawl cynllun ynni solar enfawr cyfagos, ymhlith cynigion datblygu eraill.  Ni all system gynllunio Cymru yn ei ffurf bresennol reoli datblygiadau o’r fath, a byddai’r dinistr y byddai’r datblygiadau hyn yn ei achosi o dan y trefniadau presennol yn rhoi diwedd ar y gwlyptir hardd, bregus a chymhleth hwn.

 

Mae pwysau cynyddol am ddatblygiadau ynni solar ar raddfa gyflym iawn, yn ogystal â datblygiadau eraill (fel parciau busnes), ar SoDdGA Gwastadeddau Gwent, yn ogystal â methiant systemig a hirsefydlog i'w reoli.  Er enghraifft, mae’r ymdrechion i symud neu hyd yn oed liniaru’r difrod difrifol a achoswyd gan yr unig fferm solar a adeiladwyd yno hyd yma (yn Llanwern), drwy ddefnyddio amodau cynllunio, wedi methu.  Mae’n ddigon posibl bod lefelau llygredd yn y safle ac yn agos ato wedi cynyddu.  Mae cornchwiglod, aderyn prin sy'n nythu yng Nghymru, wedi'u gyrru i ddifodiant yno. Newid hinsawdd yw’r prif fygythiad i fioamrywiaeth yn fyd-eang.  Mae angen gweithredu ar y cyd ym mhob maes polisi, gan gynnwys ynni adnewyddadwy – ond ni ddylai hyn ddod ar draul bioamrywiaeth. Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn drysorau: Maent yn safleoedd o bwysigrwydd ledled y DU sydd wedi’u dynodi’n statudol ar gyfer bywyd gwyllt.  Gan gwmpasu dim ond 12 y cant o dir Gymru, ni ddylid eu targedu ar gyfer datblygiadau adeiledig mawr, pan fo miloedd o hectarau o dir a thoeau ledled Gwent a Chymru yn llawer mwy addas.

 


1.        Y cefndir

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn nodi  mai SoDdGa yw'r “safleoedd pwysicaf o safbwynt treftadaeth naturiol Cymru”. Maent, yn ôl disgrifiad CNC, “yn safleoedd gwarchodedig iawn, a hynny er mwyn diogelu’r ystod, yr ansawdd a’r amrywiaeth o gynefinoedd, rhywogaethau a nodweddion daearegol” a geir ynddynt.

Mae gan bob SoDdGA ddatganiad rheoli safle  sy'n nodi pam mae’r safle'n arbennig a sut y dylid ei reoli.

Gwastadeddau Gwent

Gwastadeddau Gwent yw'r enw torfol ar nifer o SoDdGA gwahanol i'r de o Gasnewydd, ac sy'n ymestyn i'r gogledd o Aber Afon Hafren. Mae'r deisebydd yn galw am atal datblygiadau sylweddol ychwanegol ar y Gwastadeddau ac yn awgrymu nad yw polisi cynllunio presennol yn gallu rheoli datblygiadau o'r fath.

Efallai mai’r datblygiad amlycaf a gynigiwyd mewn  perthynas â Gwastadeddau Gwent oedd Cynllun ffordd liniaru'r M4. Yn yr achos hwn, penderfynodd Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog,  yn erbyn y cynllun yn 2019,  er gwaethaf argymhelliad yr arolygydd annibynnol i fwrw ymlaen ag ef. Dywedodd y Prif Weinidog y canlynol:

Rwy'n rhoi pwys mawr iawn ar y ffaith y câi'r Prosiect effaith andwyol sylweddol ar Wastadeddau Gwent.

Yn 2021 cyhoeddodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ddatganiad ysgrifenedig am y camau a oedd yn cael eu cymryd i warchod a rheoli Gwastadeddau Gwent yn well. Roedd y datganiad yn cyfeirio at benderfyniad ffordd liniaru’r M4 ac yn amlinellu’r camau roedd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu’r Gwastadeddau gan gynnwys sefydlu gweithgor Gwastadeddau Gwent. Roedd y datganiad yn amlinellu prif flaenoriaethau’r grŵp.

Polisi cynllunio

Caiff penderfyniadau yngylch ceisiadau cynllunio eu gwneud yn unol â pholisïau cenedlaethol a lleol, oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall.

Mae fframwaith polisi cynllunio cenedlaetholLlywodraeth Cymru yn cynnwys Polisi Cynllunio Cymru, y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol  – Cymru'r Dyfodol, a chyfres o Nodiadau Cyngor Technegol (TAN). Mae nifer o bolisïau wedi’u datblygu i warchod Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Cafodd Adran 6 o Bolisi Cynllunio Cymru ei diweddaru ym mis Hydref 2023 ac mae'n nodi:

Dylid osgoi unrhyw ddatblygiad ar SoDdGA os nad oes ei angen at ddiben rheoli’r safle…Caiff yr hyn sydd ei angen er mwyn rheoli safle ei ystyried fesul achos ond mae’n debygol o fod yn gyfyngedig i’r gweithgareddau sydd eu hangen i gyflawni ei amcanion cadwraeth...

…Ceir rhagdybiaeth yn erbyn pob math arall o ddatblygiad mewn SoDdGA fel mater o egwyddor a dylai’r rhagdybiaeth hon gael ei hadlewyrchu’n briodol mewn cynlluniau datblygu a phenderfyniadau rheoli datblygiad.  Ceir rhagdybiaeth hefyd yn erbyn datblygiad nad yw o fewn SoDdGA ond sy’n debygol o ddifrodi SoDdGA.…

…Dim ond o dan amgylchiadau cwbl eithriadol a dim ond pan ystyrir bod datblygiad yn briodol ac na fydd yn debygol o niweidio SoDdGA a bod cytundeb eang a chlir i liniaru a gwella fel rhan o gynllun datblygu y dylai datblygiad gael ei gynnig.

Yn ei llythyr at y Cadeirydd dyddiedig 4 Mawrth, mae’r Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd yn nodi’n glir bod yn rhaid i benderfyniadau cynllunio a datblygu polisi cynllunio sy’n ymwneud â Gwastadeddau Gwent gadw at yr egwyddorion uchod.

Yn ogystal â Pholisi Cynllunio Cymru, mae polisi 9 o Fframwaith Datblygu Cymru yn cyfeirio'n benodol at Wastadeddau Gwent. Mae’r Fframwaith yn cyd-fynd â’r Polisi Cynllunio ac yn cynnwys fframwaith defnydd tir am gyfnod o 20 mlynedd. Mae iddo statws cynllun datblygu.

Mae Polisi 9 o’r Fframwaith yn nodi ardaloedd adnoddau naturiol cenedlaethol gan gynnwys Gwastadeddau Gwent. Mae’n datgan y “dylai awdurdodau cynllunio gynnwys yr ardaloedd…hyn o fewn strategaethau a pholisïau eu cynlluniau datblygu er mwyn hyrwyddo a diogelu'r swyddogaethau a gyflawnir ganddynt a'r cyfleoedd a gynigir ganddynt.”

Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol

Dywed grŵp ymgyrchu Cyfeillion Gwastadeddau Gwent eu bod yn brwydro yn erbyn nifer o Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaetholarfaethedig ar y Gwastadeddau.

Caiff rhai datblygiadau penodol eu categoreiddio’n Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru sy’n rhoi cydsyniad iddynt yn hytrach na’r awdurdod cynllunio lleol. Mae'r deisebydd yn cyfeirio'n benodol at ffermydd solar. Mae adeiladu, ymestyn neu newid gorsaf cynhyrchu trydan (ac eithrio gorsaf cynhyrchu ynni gwynt ar y tir) y disgwylir iddi fod â chapasiti o 10 – 350MW (neu y disgwylir i’w chapasiti gynyddu cymaint â hynny) yn dod o fewn y gyfundrefn ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol.

Yr Awdurdod Cynllunio Lleol fyddai'n penderfynu ynghylch prosiectau â chapasiti o dan 10MW, ond Llywodraeth y DU fyddai’n penderfynu ynghylch  prosiectau â chapasiti dros 350MW a hynny o dan  gyfundrefn Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP).. Nid oes trothwy o’r fath ar gyfer prosiectau ynni gwynt ar y tir – Gweinidogion Cymru sy’n penderfynu ar bob prosiect dros 10MW.

Os caiff ei basio, bydd y Bil Seilwaith (Cymru), sydd ar ei hynt drwy’r Senedd ar hyn o bryd, yn cyflwyno cyfundrefn gydsynio unedig newydd, sef Cydsyniad Seilwaith ar gyfer ‘Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol’. Byddai hyn yn disodli'r gyfudrefn bresennol ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a mathau eraill o gydsyniad.

Byddai’r Bil hefyd yn codi’i trothwy ar gyfer gorsafoedd cynhyrchu ynni (ar wahân i orsafoedd cynhyrchu ynni gwynt ar y tir) i 50-350MW, sy’n golygu mai’r Awdurdod Cynllunio Lleol, unwaith eto, fyddai’n rhoi cydsyniad i rai prosiectau o dan 50MW a fyddai wedi dod o dan y gyfundrefn flaenorol ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol.

Mae ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi amrywiaeth o adnoddau’n ymwneud â’r Bil.

2.     Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Yn ei llythyr at y Cadeirydd dyddiedig 4 Mawrth mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd yn tynnu sylw at y newidiadau yn y polisi cynllunio cenedlaethol mewn perthynas â Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, a amlinellwyd uchod. Dywed y Gweinidog y bydd y newidiadau “yn dylanwadu’n uniongyrchol ar unrhyw ddatblygiad arfaethedig ar y Gwastadeddau yn y dyfodol”. Mewn perthynas â pholisi 9 o’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (gweler uchod), dywed y Gweinidog ei bod wedi:

…. cymeradwyo datblygu canllawiau cynllunio pellach yn benodol ar gyfer y Gwastadeddau i helpu i roi'r polisi cenedlaethol hwn ar waith.…Mae'r gwaith o ddarparu'r canllawiau hyn bellach wedi dechrau gydag adnoddau penodol o ran staff wedi'u sicrhau ddiwedd 2023 er mwyn eu cyflwyno.

3.     Camau a gymerwyd gan Senedd Cymru

Ym mis Mehefin 2022 rhoddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ddatganiad i’r Senedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy’n cael eu cymryd i ddiogelu Gwastadeddau Gwent.

Ymgymerodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith â’r gwaith o graffu ar y Bil Seilwaith (Cymru) yng Nghyfnod 1 a chyfnod 2.Yn ystod y gwaith craffu hwn, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a ddywedodd ei bod yn gweithio gydag Arup i ystyried sut y gellid monitro Gwastadeddau Gwent ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu. Dywedodd y canlynol:

 …on the Gwent levels, there has been a solar farm and other developments. [We’re looking at] has that enhancement that has been put in as part of those schemes actually happened or not?

Cynhelir trafodion Cyfnod 3 yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 19 Mawrth.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.